P-05-722 – Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nicola Butterfield, ar ôl casglu 553 llofnod bapur.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwariant ar y ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig yn cael ei glustnodi, gan gydnabod fod hwn yn fuddsoddiad ym mhlant Cymru, ac y dylai awdurdodau lleol gael eu cyfarwyddo i sicrhau bod lefelau digonol o gyllid ar gael fel y gall plant sydd angen gwasanaeth o’r fath fyw bywydau hapus a llawn, ac nad yw eu teuluoedd yn gorfod wynebu’r ofn o gystadlu â’i gilydd am leoedd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
Aberafan
Gorllewin De Cymru